Back to Search

Enaid Lewys Meredydd: Stori am y Flwyddyn 2002

AUTHOR Jones, T. Gwynn; Jones, Thomas Gwynn
PUBLISHER Melin Bapur (04/07/2024)
PRODUCT TYPE Paperback (Paperback)

Description

(Enaid Lewys Meredydd is almost certainly the earliest science fiction novel written in Welsh and is available here for the first time since its original serialisation)


"Draw yn y pellter, fel dwy aden wen fawr, roedd dwy long awyr yn troi ac yn hofran, weithiau'n codi ac weithiau'n gostwng uwchben Sir Fôn, a'r naill fel pe buasai yn ymlid yr llall, fel pe buasent ddwy wylan ar yr aden.

Daethant yn nes, nes. Roeddynt o'r diwedd uwchben Menai. "Gwêl!" ebe Ap Rhys.

Gwelwyd rhywbeth fel llinyn o dân yn neidio o un llong at y llall, a'r funud nesaf, roedd y naill yn disgyn fel carreg i'r afon, a'r llall yn ymgodi fel pluen i'r awyr."


Y flwyddyn yw 2002. Hyd ei oes, mae Meredydd Fychan wedi bod yn glaf anymwybodol dan ofal meddyg, yn fyw ond heb ddangos unrhyw arwydd o ymwybyddiaeth. Ond un bore, mae'n deffro, ac yn taeru mai ef yw Lewys Meredydd, bonheddwr fu farw bron i ganrif yn ôl. Does bosib ei fod yn dweud y gwir?


Ysgrifennwyd Enaid Lewys Meredydd yn 1905, ac mae'n ymddangos yn y gyfrol hon ar ffurf llyfr am y tro cyntaf erioed. Y nofel hon, hwyrach, yw'r nofel ffuglen wyddonol cynharaf i'w hysgrifennu yn yr iaith Gymraeg, ac mae'n cynnig cipolwg unigryw o ddychymyg un o Gymry blaenllaw'r oes yngl?n â'r dyfodol.


Thomas Gwynn Jones (1871-1949) yw un o brif ffigyrau llenyddol a deallusol y byd Cymraeg. Enillodd y Gadair yn 1902 gyda'i awdl Ymadawiad Arthur, ond ar y pryd roedd yn fwy enwog fel nofelydd a newyddiadurwr. Bu'n ysgrifennu ar gyfer nifer o bapurau newydd yn y Gymraeg a'r Saesneg, lle cyhoeddwyd ei nofelau fesul bennod, Enaid Lewis Meredydd yn eu plith, a ymddangosodd yn Papur Pawb yn 1905. Y fersiwn hwn yw'r tro gyntaf i'r nofel ymddangos ar ffurf cyfrol ers i'r nofel ymddangos fel cyfres yn 1905. Mae'r orgraff a'r sillafu wedi'u diweddaru rhywfaint.


Show More
Product Format
Product Details
ISBN-13: 9781917237024
ISBN-10: 1917237022
Binding: Paperback or Softback (Trade Paperback (Us))
Content Language: Welsh
More Product Details
Page Count: 128
Carton Quantity: 48
Product Dimensions: 5.00 x 0.35 x 8.00 inches
Weight: 0.29 pound(s)
Country of Origin: US
Subject Information
BISAC Categories
Fiction | Science Fiction - Steampunk
Fiction | Science Fiction - Time Travel
Fiction | World Literature - Wales
Descriptions, Reviews, Etc.
publisher marketing

(Enaid Lewys Meredydd is almost certainly the earliest science fiction novel written in Welsh and is available here for the first time since its original serialisation)


"Draw yn y pellter, fel dwy aden wen fawr, roedd dwy long awyr yn troi ac yn hofran, weithiau'n codi ac weithiau'n gostwng uwchben Sir Fôn, a'r naill fel pe buasai yn ymlid yr llall, fel pe buasent ddwy wylan ar yr aden.

Daethant yn nes, nes. Roeddynt o'r diwedd uwchben Menai. "Gwêl!" ebe Ap Rhys.

Gwelwyd rhywbeth fel llinyn o dân yn neidio o un llong at y llall, a'r funud nesaf, roedd y naill yn disgyn fel carreg i'r afon, a'r llall yn ymgodi fel pluen i'r awyr."


Y flwyddyn yw 2002. Hyd ei oes, mae Meredydd Fychan wedi bod yn glaf anymwybodol dan ofal meddyg, yn fyw ond heb ddangos unrhyw arwydd o ymwybyddiaeth. Ond un bore, mae'n deffro, ac yn taeru mai ef yw Lewys Meredydd, bonheddwr fu farw bron i ganrif yn ôl. Does bosib ei fod yn dweud y gwir?


Ysgrifennwyd Enaid Lewys Meredydd yn 1905, ac mae'n ymddangos yn y gyfrol hon ar ffurf llyfr am y tro cyntaf erioed. Y nofel hon, hwyrach, yw'r nofel ffuglen wyddonol cynharaf i'w hysgrifennu yn yr iaith Gymraeg, ac mae'n cynnig cipolwg unigryw o ddychymyg un o Gymry blaenllaw'r oes yngl?n â'r dyfodol.


Thomas Gwynn Jones (1871-1949) yw un o brif ffigyrau llenyddol a deallusol y byd Cymraeg. Enillodd y Gadair yn 1902 gyda'i awdl Ymadawiad Arthur, ond ar y pryd roedd yn fwy enwog fel nofelydd a newyddiadurwr. Bu'n ysgrifennu ar gyfer nifer o bapurau newydd yn y Gymraeg a'r Saesneg, lle cyhoeddwyd ei nofelau fesul bennod, Enaid Lewis Meredydd yn eu plith, a ymddangosodd yn Papur Pawb yn 1905. Y fersiwn hwn yw'r tro gyntaf i'r nofel ymddangos ar ffurf cyfrol ers i'r nofel ymddangos fel cyfres yn 1905. Mae'r orgraff a'r sillafu wedi'u diweddaru rhywfaint.


Show More
List Price $15.99
Your Price  $15.83
Paperback