Cathl i'r Eos a Cherddi Eraill
| AUTHOR | Blackwell (Alun), John; Rhys, Robert |
| PUBLISHER | Melin Bapur (09/28/2025) |
| PRODUCT TYPE | Paperback (Paperback) |
(New edition of the poems of Welsh-language poet Alun (John Blackwell))
"Er dichon fod ei chalon wan
Yn delwi dan y dulid,
Ni chwyna, i flino'i hannwyl rai, -
Ei gwên a guddia'i gofid:
Ni pheidia'i chân trwy ddunos faith,
Nes gweled gobaith golau
Yn t'wynnu, megis llygad aur,
Trwy bur amrantau'r bore."
Roedd Alun, a defnyddio enw barddol y brodor o'r Wyddgrug John Blackwell (1797-1840), yn un o feirdd Cymraeg mwyaf llwyddiannus a phoblogaidd rhan gyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er nad oes dim ond cymharol ychydig o'i waith wedi goroesi, ystyrir ef yn ddolen gyswllt bwysig yn natblygiad y traddodiad telynegol Cymraeg.
Mae'r detholiad hwn o'i waith yn cynnwys mwyafrif helaeth y cerddi o'i eiddo sy'n hysbys; gan gynnwys yr awdlau enillodd iddo sawl gwobr mewn Eisteddfodau taleithiol yr 1820au, nifer o englynion, ynghyd â'i gerddi yn y mesurau rhydd, sef y gweithiau daeth yn fwyaf adnabyddus amdanynt.